Cyfoeth Naturiol Cymru

System gydymffurfio

Roedd angen system gydymffurfio ar Gyfoeth Naturiol Cymru y gallai ei defnyddio i drefnu a chofnodi ymweliadau cydymffurfio, ond a fyddai hefyd yn integreiddio â’i systemau presennol. Gwnaethom ni adeiladu’r System Gofnodi Asesiadau Cydymffurfio (CARS) iddo.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r Corff mwyaf yng Nghymru a Noddir gan Lywodraeth Cymru a rhan o’i waith yw gwirio ac adrodd ar gydymffurfiaeth â rheoliadau sy’n diogelu pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwig a gwastraff. System gwmwl gwbl integredig yw CARS sydd wedi’i chynllunio a’i hadeiladu’n bwrpasol i fodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru: mae’n trefnu ymweliadau, yn caniatáu i’w aseswyr wneud nodiadau, yn lanlwytho lluniau i’w banc Asedau sef system storio lluniau, yn anfon dogfennau i’w system reoli dogfennau ar-lein, SharePoint, ac yn integreiddio â System Microsoft Dynamics CRM i gael gwybodaeth am reoliadau.

HERIAU

  • integreiddio â nifer o wahanol systemau
  • gofynion trefnu cymhleth
  • system hygyrch sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr
  • cynhyrchu adroddiadau ar wybodaeth reoli o ddata a fewnbynnir

YR ATEB

  • cymhwysiad gwe cwmwl pwrpasol, .NET, MVC
  • APIs pwrpasol i alluogi i ddata gael ei gymryd o systemau eraill
  • cronfa ddata SQL Cloud i storio data cydymffurfio
  • gwasanaethau adrodd gweinydd SQL i gynhyrchu adroddiadau cymhleth ar ddata

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • storio adroddiadau’n ddigidol
  • rheoli fersiynau a hanes archwilio llawn
  • integreiddio’r holl systemau yn un rhyngwyneb
  • cynhyrchu refeniw gan fod anfonebau’n cael eu creu’n awtomatig