Gweddnewidiad Digidol

Gall gwasanaethau cwmwl ddod â manteision busnes, ariannol a TG rhagorol. Rydym wedi bod yn gweithio yn y cwmwl ers blynyddoedd, yn creu datrysiadau cyhoeddus, preifat a hybrid gan ddefnyddio rhaglenni darparu ar y cwmwl blaenllaw megis Microsoft Azure, Office365 a Gwasanaethau Gwe Amazon. Mae ein cynnig yn cynnwys Gwasanaethau Cwmwl Azure, Umbraco, teclynnau gwe a SharePoint.

Hefyd, rydym yn gyflenwr gwasanaeth masnachol sy'n darparu ar gyfer y Goron gyda fframweithiau G-Cloud a Digital Outcomes and Specialists.

Mae hyn i gyd yn golygu y gallwn eich helpu i wneud y mwyaf o heddiw – ac achub y blaen ar yfory.