Ardystiadau

Partner Microsoft Gold

Golyga ein hardystiad Microsoft Gold y gallwch fod yn hyderus ein bod wedi dangos ein harbenigedd mewn technolegau Microsoft megis .NET, Azure ac Office365.

Mae hefyd yn golygu dau beth pwysig arall. Yn gyntaf, mae gennym fynediad at yr holl offer datblygu a thrwyddedau sydd eu hangen arnom i ddatblygu systemau anhygoel. Yn ail, gallwn alw ar Microsoft heb unrhyw gost ychwanegol i roi cymorth i’n cleientiaid i gynllunio ar gyfer trawsnewidiad digidol neu i ddatrys eu problemau.

Yn olaf, drwy Microsoft Cloud Partner Program, gallwn gynnig rhaglen gwmwl Azure a hefyd Office365 am brisiau llai.

 

Partner Umbraco Gold

Gan ein bod yn Bartner Umbraco Gold ac yn ddatblygwyr Umbraco ardystiedig, cawn ein cydnabod fel arbenigwyr ym maes datblygu dyfeisiau gwe Umbraco.

Ffynhonnell agored yw Umbraco, ac rydym wedi cyfrannu’n weithredol at god ffynhonnell Umbraco, at ddogfennau ac at wefan y datblygwr, yn ogystal â dylanwadu ar y fersiwn diweddaraf drwy ddigwyddiadau hackathon.

Mae gennym hefyd fynediad i gymorth diderfyn i helpu i ddatrys unrhyw broblemau y mae cleientiaid yn eu hwynebu, yn ogystal â gwasanaeth cyngor pensaernïol i'n helpu i ddarparu’r ateb gorau posibl.

 

Cyflenwr Gwasanaeth Masnachol Crown

Rydym yn Gyflenwr Gwasanaeth Masnachol Cwmwl (Crown Commercial Service Supplier) ar G-Cloud Digital Marketplace a fframweithiau Digital Outcomes and Specialists y llywodraeth, y mae pob un ohonynt ar gael i gyrff y sector cyhoeddus. Golyga hyn y gallwch brynu ein gwasanaethau’n gyflym, gyda’r wybodaeth eich bod chi’n cydymffurfio â meini prawf caffael yr UE a'r DU.

 

ISO27001 a Cyber Essentials Plus (Hanfodion Seiber)

Rydym yn gweithredu o dan System Reoli Diogelwch Gwybodaeth (ISMS) ISO/IEC 27001, ac rydym hefyd wedi ein hardystiad gan gynllun Cyber Essentials Plus a gefnogir gan y Llywodraeth. Gall ein cleientiaid fod yn siŵr bod eu gwybodaeth mewn dwylo diogel.

 

 

ISO9001

Rydym yn rhedeg System Reoli Ansawdd ardystiedig ISO 9001 i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r lefel uchaf bosibl i’n cleientiaid. Fel rhan o’r ardystiad hwn, ein nod yw gwella ein gwasanaethau a'n perfformiad yn barhaus. 

 

 

Cyflogwr Cyflog Byw Go Iawn

Y bobl sy'n gwneud Method4, felly rydym yn gwneud yn siŵr fod pawb ym mhob swyddogaeth yn cael ei dalu’n unol â chostau byw go iawn.