Hysbysiad Preifatrwydd

Cyflwyno Ffurflen drwy’r Wefan

Wrth glicio ‘anfon’ ar ein tudalen gysylltu, rydych yn caniatáu i ni brosesu eich data personol er mwyn i ni ymdrin â’ch cais. Bydd eich data yn cael ei ddileu o fewn dau fis i ni orffen prosesu’ch cais, sy’n gyfnod gweinyddu yn unig. Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth yn hirach nag sydd ei angen arnom ac ni fyddwn ychwaith yn ei drosglwyddo i drydydd partïon!

Mae ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu wedi’i diffinio fel Cydsyniad yn ôl Erthygl 6 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Eich Hawliau

Mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • Cael gwybod bod eich data personol yn cael ei brosesu, sef sail yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn;
  • Mynediad, cewch ofyn am gopi o’r data personol yr ydym ni’n ei gadw;
  • Cywiro, os ydych yn gweld bod y data a gedwir gennym yn anghywir, cewch ofyn i ni ei gywiro;
  • Dileu, cewch ofyn i ni ddileu eich manylion ar unrhyw adeg;
  • Cyfyngu ar y prosesu, dim ond er mwyn ymdrin â’ch cais y byddwn ni’n cadw eich manylion. Os byddwch chi’n cysylltu â ni i gyfyngu ar y prosesu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu’r data ac yn ei ddileu;
  • Cludadwyedd data, os bydd angen copi arnoch o’r data yr ydym yn ei gadw, cewch dderbyn y data hwn ar fformat y gall peiriant ei ddarllen;
  • Gwrthwynebu, unwaith eto, dim ond er mwyn ymdrin â’ch cais y byddwn ni’n prosesu eich data, felly os ydych yn gwrthwynebu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data ac yn ei ddileu;
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg wrth gwrs, a byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data ac yn ei ddileu!

Manylion y cwmni

Method4
Imperial House,
12-14 Trade Street,
Caerdydd,
CF10 5DT

Rhif cofrestru’r cwmni: 5444987 

Cyswllt: info@method4.co.uk