.NET

Rydym yn defnyddio fframwaith Microsoft .NET i greu rhaglenni gwe pwrpasol a gwasanaethau ar y we, ac rydym yn gyfarwydd iawn â rhaglenni .NET megis Umbraco a SharePoint hefyd.

Rydym hefyd yn brofiadol wrth ddefnyddio ffurflenni gwe ASP.NET MVC a ASP.NET ar gyfer datblygiadau ar y we – a manteisiwn ar adnoddau craidd gan gynnwys Visual Studio, Team Foundation Server a Visual Studio Online.

Systemau gwe creadigol sydd wedi eu haddasu’n arbennig. Yr hyn sydd ei angen arnoch chi a'ch cwsmeriaid. Yr hyn y mae ein harbenigedd technolegol yn ei ddarparu.