Llywodraeth Cymru

Asesiadau Personol Ar-lein

Yn 2012 lansiodd Llywodraeth Cymru fenter i drawsnewid dysgu ac addysgu yng Nghymru, gan ddiweddaru arferion i weddu i'r byd digidol yr ydym ni'n byw ynddo heddiw. Yn rhan o'r trawsnewid hwn, byddai asesiadau personol ar-lein yn disodli profion darllen a rhifedd ar bapur ym mhob ysgol yng Nghymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 2 i 9.

Method4, ynghyd â chonsortiwm o gwmnïau, ddarparodd y platfform asesiadau personol ar-lein newydd. Mae'r asesiadau dwyieithog, ar-lein yn ymaddasol, ac mae pa mor anodd yw'r cwestiynau yn newid ar sail ateb blaenorol y dysgwr, gan felly herio pob dysgwr beth bynnag fo'i allu. Ar ôl cwblhau asesiad, darperir adborth ffurfiannol i'r dysgwyr ac i'r athrawon, gan alluogi cymorth â phwyslais penodol gan ysgolion.

Datblygodd ein tîm system bwrpasol er mwyn i athrawon drefnu asesiadau, a dysgwyr eu cychwyn. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr weld adborth ac ysgolion i weld adroddiadau cryno. Mae'r system yn integreiddio gyda Hwb, platfform dysgu ac addysgu digidol Cymru, a Surpass, platfform profi ar-lein.

Enillodd yr asesiadau personol ar-lein y categori defnydd gorau o asesiadau ffurfiannol yng Ngwobrau e-Assessment 2020 a dod yn agos i'r brig yn y categori prosiect trawsnewidiol gorau. Rydym ni'n falch iawn o'r rhan yr ydym ni wedi ei chwarae yn natblygiad y platfform a thrawsnewid digidol addysg yng Nghymru.

HERIAU

  • byddai angen i'r system allu tyfu i ymdopi â degau o filoedd o ddysgwyr yn mewngofnodi i wneud profion ar yr un pryd
  • byddai angen i ddata defnyddwyr gael eu cysoni i mewn i'r cronfeydd data mor gyflym â phosibl i alluogi diweddariadau dyddiol o systemau ysgolion
  • angen bod â chydymffurfiad AA gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan (WCAG) 2

YR ATEB

  • gwiriadau system i ragweld cyfnodau o ddefnydd uchel drwy wirio’r nifer o brofion a drefnwyd
  • cydbwyso llwyth er mwyn i’r wefan allu tyfu yn unol â’r anghenion pan fo’r gwiriadau yn rhagweld llwythi uchel
  • drwy ddefnyddio ffwythiannau cadarn, llwyddasom i dyfu’r ffwythiannau Azure i gysoni data yn gyflym
  • sicrhaodd technoleg darllen sgrin gydymffurfiad AA

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • cost effeithlon, gellir tyfu’r platfform Azure pan fo angen yn hytrach na thalu am ddefnydd uchel yn gyson
  • rhyngwyneb di-dor sy’n hawdd ei ddefnyddio
  • cyflwyno canlyniadau ac adroddiadau yn gyflym i ddefnyddwyr