Link

Ap Lleolwr peiriant twll yn y wal

Mae tua 70,000 o beiriannau arian parod yn gysylltiedig â rhwydwaith LINK, sy'n golygu pob peiriant twll yn y wal yn y DU mewn gwirionedd. Mae Method4 wedi cynllunio a datblygu ap llawn nodweddion ar gyfer ffôn symudol ar ran LINK, sy'n helpu defnyddwyr i ddod o hyd i beiriant arian a chael arian parod pan eu bod ar grwydr. Mae'r ap ar gael ar gyfer ffonau iPhone ac Android a dyma'r un mwyaf cynhwysfawr o'i fath ar gyfer dod o hyd i beiriannau twll yn y wal yn y DU.

Y GWASANAETHAU A DDARPARWYD GENNYM

Gan weithio'n agos gyda'n cleient, Link Scheme Ltd, fe wnaethom gynllunio a datblygu'r ap gan ddefnyddio'r llwyfan datblygu ar draws dyfeisiau, Xamarin.  Roedd hwn yn galluogi ein tîm datblygu i weithio mewn un sylfaen cod ar gyfer iPhone ac Android gan ddatblygu'r ap yn gyflym ar y ddau lwyfan ffonau symudol, gan arbed cost i'r cleient.

Roedd cynnal profion defnyddioldeb â thrawstoriad o'r farchnad defnyddwyr trwy gydol y gwaith datblygu yn ein galluogi i ddod o hyd i broblemau'n gynnar a sicrhau profiad o ansawdd uchel i'r defnyddiwr yn y pen draw.

Gan weithio gyda Thomas Pocklington Trust, elusen ar gyfer rhai sydd wedi colli eu golwg, bu modd i ni ddilysu'r nodweddion hygyrchedd a oedd wedi eu cynnwys yn yr ap gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r ap yn effeithiol â thechnolegau cynorthwyol iPhone ac Android, VoiceOver a Talkback.

Mae'r ap yn dangos i ddefnyddwyr ble mae'r peiriant twll yn y wal agosaf atynt trwy ddefnyddio map a rhestr o leoliadau.  Arddangosir gwybodaeth am bellter a chyfeiriad gan ddefnyddio cyfleusterau lleoliad mewnol a chwmpawd y ffôn symudol. Gall hefyd hidlo canlyniadau chwilio, er enghraifft trwy ddarparu gwybodaeth am: beiriannau twll yn y wal sy'n darparu cymorth clywedol, peiriannau twll yn y wal sy'n darparu papurau £5; peiriannau twll yn wal y ceir eu defnyddio am ddim; neu'r rhai hynny sy'n perthyn i fanc penodol.

Mae'r ap wedi'i gynllunio i deimlo'n naturiol i ddefnyddwyr y ddau fath o ddyfais. Er enghraifft, mae Google Maps wedi ei gynnwys yn y fersiwn Android, ond mae'r iPhone yn defnyddio Apple Maps.

Mae nodweddion eraill yn cynnwys: awgrymiadau i ddefnyddwyr ynglŷn â sut i aros yn ddiogel wrth ddefnyddio peiriant twll yn y wal; system adborth sy'n caniatáu i ddefnyddwyr roi gwybod am broblemau gyda pheiriannau twll yn y wal; a dulliau o ganiatáu rhybuddion pan fyddwch yn agos i un o'ch hoff beiriannau twll yn y wal.

Mae'r ap ar gael yn yr App Store ar gyfer iPhone a Google Play ar gyfer Android.

HERIAU

  • sicrhau bod data ar gael i ddefnyddwyr am 70,000 a mwy o beiriannau twll yn y wal ar ffurf map a rhestr
  • yn hygyrch i ddefnyddwyr dall a rhannol ddall
  • ar gael ar wahanol lwyfannau ffonau symudol
  • gallu cynhwysfawr i chwilio a hidlo nodweddion peiriannau twll yn y wal
  • system adborth i alluogi defnyddwyr i roi gwybod am broblemau â pheiriannau twll yn y wal neu gywirdeb y data

YR ATEB

  • un sylfaen cod ar draws dyfeisiau (iPhone ac Android) gan ddefnyddio llwyfan Xamarin
  • wedi’i integreiddio â Google Maps ac Apple Maps
  • gwasanaeth gwe a chronfa ddata a letyir yn Microsoft Azure
  • cynhaliwyd profion drwy gydol y cyfnod datblygu gyda defnyddwyr yn ein labordai defnyddioldeb
  • mae’n synhwyro pan eich bod yn agos i un o’ch hoff beiriannau twll yn y wal drwy ddefnyddio technoleg "geofencing"

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • yr ap lleoli peiriannau twll yn y wal mwyaf cynhwysfawr yn y DU
  • mae’n dangos ymrwymiad LINK i gynhwysiant ariannol
  • gostyngiad yn y gost o ddatblygu a chynnal a chadw’r ap yn barhaus oherwydd un sylfaen cod ar draws llwyfannau
  • y gallu i adalw data cyfredol am beiriannau twll yn y wal ar alw gan LINK