Sharepoint

Yn bwrpasol, yn syth allan o'r blwch, neu’n gyfuniad o'r ddau – rydym yn datblygu ac yn creu gwefannau corfforaethol, mewnrwydi ac allrwydi yn unol â’r hyn sydd ei angen ar y prosiect.

Mae ein profiad gyda rhaglenni SharePoint yn cynnwys yr holl raglenni mawr sydd wedi cael eu rhyddhau yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, a’n gwybodaeth fanwl sy’n golygu y gallwn gyflwyno dewisiadau gweithredu clir o'r cychwyn cyntaf. Gallwn eich helpu i wneud y defnydd gorau o’r holl offer SharePoint sydd ar gael ichi, a fydd yn creu datrysiadau diogel a hawdd eu defnyddio sy'n addas ar gyfer anghenion penodol eich busnes.

Os nad ydych chi wedi ystyried SharePoint Online eto, nawr yw'r amser i wneud hynny. Mae gan ei offer datblygu yr wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, cânt eu diweddaru’n rheolaidd, maent yn hawdd ichi eu defnyddio a’u rheoli, a byddant yn gostwng eich costau, hefyd. Os ydych chi'n defnyddio fersiynau ar y safle ar hyn o bryd, mae gennym ddigon o brofiad o fudo i’r rhaglen ar-lein.

Hefyd, gall yr hyfforddiant a’r mentora yr ydym yn eu cynnig eich galluogi chi i roi ein harbenigedd ar waith drosoch eich hunain.