Estyn

Rhith-ystafelloedd arolygu

Gofynnodd Estyn i Method4 ddatblygu system arolygu wedi’i theilwra. Estyn yw’r corff arolygu ar gyfer holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant Cymru. Mae’n gyfrifol am arolygu pob meithrinfa, ysgol a darparwr dysgu a hyfforddiant i oedolion bob chwe blynedd o leiaf, ac am lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

Y GWASANAETHAU A DDARPARWYD GENNYM

HERIAU

  • Creu system a allai drefnu a chydgysylltu arolygiadau
  • Galluogi tîm o arolygwyr i archwilio gwahanol agweddau ar ddarparwyr addysg a hyfforddiant a chrynhoi eu canfyddiadau mewn un adroddiad cyffredinol
  • Casglu ymatebion i holiaduron gan ddysgwyr, rhieni a darparwyr
  • Cydweddu â Microsoft Word

YR ATEB

  • Galluogodd platfform SharePoint â rhannau wedi’u teilwra ar y we i’r tîm greu Rhith-ystafell Arolygu ar gyfer pob Arolygiad
  • Defnyddiwyd yr SDK Open XML i ysgrifennu cod sy’n darllen, yn ysgrifennu ac yn diwygio ffeiliau Word
  • Crëwyd system holiaduron wedi’i theilwra i fwydo i mewn i’r Rhith-ystafell Arolygu ac adroddiadau arolygu

CANLYNIADAU A BUDD-DALIADAU

  • Mae’n cyfuno ffurflenni dyfarniad yr arolygydd ac ymatebion dysgwyr/rhieni i holiaduron mewn un adroddiad cryno i’w ryddhau i’r cyhoedd
  • Mae’n caniatáu cysondeb ar draws holl adroddiadau Estyn
  • Caiff yr holl wybodaeth ei storio ar gronfa ddata fel y gall yr arolygwyr ddadansoddi data a llunio adroddiadau