Umbraco

System rheoli cynnwys ffynhonnell agored sy’n seiliedig ar amgylchedd datblygu Microsoft.NET yw Umbraco. Fe'i defnyddir gan rhai o’r enwau mwyaf ym myd busnes.

Mae Umbraco yn seiliedig ar dechnoleg Microsoft.NET ac mae'n hyblyg iawn, felly gellir ei addasu a'i ymestyn yn unol â gofynion. Dyna pam yr ydym wedi bod yn datblygu ac yn cynnal safleoedd Umbraco ers llawer o flynyddoedd. Rydym yn ei ddefnyddio i adeiladu gwefannau rhad, o ansawdd uchel, teclynnau gwe, mewnrwydi ac allrwydi ar ben rhyngwyneb hawdd i'w ddefnyddio ond pwerus y gall ein cleientiaid ei ddefnyddio i reoli eu cynnwys.

Ar ben hynny, rydym yn darparu hyfforddiant, mentora a chyngor mudo Umbraco– fel eich bod chi’n cael eich cefnogi ym mhob ffordd, ac ar bob cam.