Tŷ llawn ar gyfer yr her elusen bingo!

Sarah Howarth
Sarah Howarth - 13 Hydref 2022

Rydym yn hynod falch o'n tîm, sydd wedi chwalu her elusennol flynyddol arall yr haf.

Ymgymerodd y tîm â’n her bwrdd bingo. Cawsant fis i gwblhau heriau unigol a thîm amrywiol i ennill yr arian a addawyd yn erbyn pob gweithgaredd. Roedd y tasgau'n amrywio o redeg, dringo mynyddoedd, gwerthu cacennau, casglu rhoddion banc bwyd, a llawer mwy rhyngddynt.

Eleni, yr elusen y gwnaethom ddewis ei chefnogi oedd Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n gwneud gwaith anhygoel yn darparu parseli bwyd brys i'r rhai mewn angen ledled y DU, gan gynnwys banc bwyd Caerdydd, nid nepell o'n prif swyddfeydd. Rydym wedi cefnogi'r elusen hon sawl gwaith o'r blaen, ond gyda'r 'argyfwng costau byw' yn effeithio ar lawer o bobl ledled y DU, roeddem yn teimlo bod ein cefnogaeth nawr yn bwysicach nag erioed.

Cymerodd y tîm yr her gyda'r afiaith yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl a chwalu pob tasg a osodwyd. Codwyd swm anhygoel o £1,181, yn ogystal â rhoddion bwyd i'w dosbarthu i'r banc bwyd a oedd yn llawer uwch na'r targed gwreiddiol.

❤️

 

Ymddiheuriadau, nid oes cyfieithiad Cymraeg o'r ddelwedd hon ar hyn o bryd.