Dathlu 10 mlynedd o waith gan James!

Method4
Method4 - 21 Gorffennaf 2023

Ddydd Gwener diwethaf cawsom ddathliad arbennig iawn. Roeddem ni’n dathlu deng mlynedd ers i James Hornby ymuno â Method4 fel myfyriwr a oedd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2013. Mae hanes James yn Method4 mewn gwirionedd yn mynd ymhellach yn ôl, gan iddo gyflawni ei flwyddyn mewn diwydiant gyda ni yn 2011-2012 cyn dychwelyd i gwblhau ei astudiaethau. Roeddem wrth ein boddau i’w groesawu yn ôl i ddechrau ei yrfa ym maes datblygu meddalwedd.

Heddiw mae James yn rhan annatod o'n tîm, fel arweinydd, cynghorydd dibynadwy i ni a'n cleientiaid ac yn ddatblygwr talentog. Llongyfarchiadau i James 🍺