Fy Mlwyddyn mewn Diwydiant yn Method4

Owain Jones
Owain Jones - 08 June 2018

Fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, ble ydw i’n dechrau? Dros y 12 mis diwethaf, rwy wedi bod yn gweithio i gwmni Method4 yng Nghaerdydd fel datblygwr meddalwedd, lle rwy wedi cael y cyfle i weithio ar lawer o brosiectau gwahanol i gwmnïoedd cenedlaethol mawr a wedi cael profiad defnyddio llawer o dechnolegau gwahanol ar yr un pryd!

Cyn dechrau d’on i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl o weithio i gwmni go iawn, ro’n i’n meddwl byddwn yn gweithio ar brosiectau bach “intern” efo dim effaith ar y cwmni neu’r cwsmeriaid, ond mewn gwirionedd, roeddwn i’n cael gweithio ar brosiectau go iawn gyda chwsmeriaid go iawn! Roedd hynny tipyn bach yn frawychus i ddechrau, yn meddwl fod pobl go iawn yn mynd i ddefnyddio a dibynnu ar fy nghôd i! Ond r’on i’n really joio yn fuan!

Hefyd fy unig brofiad mewn côdio cyn dechrau yma oedd Java efo tipyn bach o C ac C++, doeddwn i erioed wedi cyffwrdd a C# o’r blaen! Ond roedd fy nghydweithwyr newydd yn wych yn dangos y ffordd yn C# ac yr ASP.NET framework! Hefyd, mae fy nealltwriaeth o HTML, CSS a JavaScript wedi cynyddu yn fawr a'r cyflwyniad i’r dull dyluniad o MVC wedi agor fy llygaid am sut i greu gwefannau a systemau llwyddiannus a chadarn.

Mae’r rhai o’r prosiectau rwy wedi gweithio arnyn nhw yn cynnwys, ap cyfarfodydd ar gyfer Hyb Technoleg, gwefannau corfforaethol, gwefan twristiaeth, system Timesheet, system rheoli asedau a system arolygu.

Yn ystod fy amser yma rwy hefyd wedi cael y siawns i weithio ar gwpl o brosiectau sydd yn defnyddio content management system (CMS) o’r enw Umbraco, ro’n i’n ffeindio hyn yn ddiddorol iawn oherwydd yr unig CMS ro’n i erioed wedi trio o’r blaen oedd Wordpress.  A mae Umbraco yn llawer gwell!

Un o’r prosiectau mwyaf diddorol i weithio arni oedd  gwefan aelodau. Oherwydd cawsom y dasg o greu math o intranet ar front end y wefan gyda Umbraco CMS, lle mae eu staff nhw yn gallu mewngofnodi iddo a siarad efo ei gilydd, uwchlwytho ffeiliau a chreu sieneli/cymunedau gwahanol ar gyfer nodau waith gwahanol. Ac mae’n really cŵl i feddwl fod cwmni arall yn rhedeg ar fy nghôd i!

Rwy wedi dysgu llawer yn y 12 mis diwethaf (mwy na’r 2 flynedd gyntaf o Uni mae’n teimlo), mae’r profiad o weithio go iawn wedi bod yn wych! Ni ddim jest yn gweithio, ni hefyd yn cael y cyfle i ddysgu a datblygu ein sgiliau trwy ddigwyddiadau cyson fel developer meetings, lle mae unrhywun yn gallu gwneud cyflwyniad bach am rywbeth ma nhw wedi ffeindio neu ddysgu yn y mis diwethaf. A phob dydd Gwener ni’n cael team lunch i helpu ymlacio a thyfu fel tîm! Rwy’n teimlon ffodus iawn o gael y cyfle i weithio efo tîm mor wych â hwn!

Felly, os ti’n meddwl am wneud Blwyddyn mewn Diwydiant, fy nghyngor i ti yw ei wneud e! Mae Blwyddyn Mewn Diwydiant yn rhoi cymaint o brofiad i ti ac yn dysgu llawer mwy na just beth ti’n dysgu yn y brifysgol, a rwy’n meddwl fod Method4 yn lle gwych i ddysgu a gweithio!