Tîm gweithredol
Christian Coates - Rheolwr Gyfarwyddwr
Graddiodd Christian o Brifysgol Lerpwl, ac mae ganddo gefndir
ymgynghori cryf yn cyflwyno buddion i ystod amrywiol o gleientiaid
o sefydliadau sector cyhoeddus fel yr Asiantaeth Safonau Bwyd a
Chynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydliadau sector preifat fel GSK
a Camelot. Fel Rheolwr gyfarwyddwr Method4, mae'n cyfuno'r rôl o
lywio cyfeiriad strategol cyffredinol y cwmni ag arwain y
swyddogaeth datblygu busnes wrth gynnal ymagwedd ymarferol at
gyflwyno prosiectau o ddydd i ddydd.

Darren Chapple - Cyfarwyddwr Technegol
Mae Darren wedi gweithio yn y diwydiant TG am dros 12 mlynedd,
ac mae wedi gweithio gydag ystod amrywiol o dechnolegau ar gyfer
amryw gleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, y
gellir ystyried llawer ohonynt yn brosiectau arloesol. Yn Method4,
mae'n gyfrifol am lywio defnydd y cwmni o dechnoleg ac mae'n
ymgymryd â rôl y pensaer technegol ar lawer o brosiectau ein
cleientiaid.
Mae Darren yn raddedig mewn Peirianneg Meddalwedd o Brifysgol
Birmingham, yn aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn
Gweithiwr TG Proffesiynol Siartredig.

Craig Hughes - Cyfarwyddwr Cyfrifon
Mae gan Craig gyfoeth o brofiad ymgynghori. Cyn ymuno â Method4,
treuliodd 13 mlynedd yn gweithio i ymgynghoriaethau TG rhyngwladol
amlwg. Yn ystod y cyfnod hwn, ymgymerodd ag ystod eang o aseiniadau
ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat, gartref a thramor. Fel
cyfarwyddwr Cyfrifon, Craig sy'n gofalu am berthnasoedd â
chleientiaid presennol ac mae'n rheoli llawer o brosiectau Method4.
Mae Craig yn raddedig mewn Systemau Gwybodaeth, Peiriannydd
Siartredig a Gweithiwr TG Proffesiynol Siartredig.
Neil Huggins - Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Mae Neil, sy'n raddedig o Brifysgol Brunel, wedi treulio dros 14
mlynedd yn gweithio yn y diwydiant TG i ymgynghoriaethau mawr fel
EDS ac i gwmnïau newydd, arloesol, llai. Mae ei rôl bresennol yn
golygu bod ganddo farn strategol ar draws y sefydliad gyda
chyfrifoldeb am sicrhau cyflwyno ansawdd ym mhob agwedd ar
wasanaethau Method4. Mae Neil yn aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron
Prydain
John Dodd - Cyfarwyddwr
Daw John â dros 40 mlynedd o arwain busnesau i Method4. Mae wedi
bod yn berchen ar fusnesau ac wedi dal swyddi cyfarwyddwyr mewn
sectorau mor amrywiol â dosbarthu, mewnforio ac allforio, cyllid,
adwerthu, eiddo a datblygu a'r diwydiant moduron.