Mentora

Gall cadw i fyny â thechnoleg newydd fod yn heriol ac yn aml mae timau mewnol yn ddiffygiol o ran sgiliau.

Gyda gwasanaeth mentora unigryw Method4, gallwch elwa ar ein harbenigedd ac amsugno'r arbenigedd hwnnw i mewn i'ch sefydliad.

Ein gwasanaethau

  • Mentora mewn technolegau a phrosesau newydd
  • Defnydd ymarferol o gysyniadau a thechnolegau Cyfeiriedig
  • Arweiniad ar ddiweddaru'ch systemau presennol â thechnoleg newydd, er enghraifft Microsoft .NET neu SharePoint
  • Helpu i wella'ch dulliau datblygu meddalwedd

Mae gan ein tîm wybodaeth a phrofiad helaeth yn nefnydd a chyflwyniad dulliau a thechnolegau allweddol y diwydiant wedi'u cefnogi gan gymwysterau proffesiynol.

Gallwn ni helpu drwy fod yn rhan o'ch tîm er mwyn rhannu arferion gorau, cyfrannu gwybodaeth a datblygu perthynas gydweithredol. Drwy'r ymagwedd hon, gallwn roi sgiliau ychwanegol i staff y systemau gwybodaeth fewnol, wrth gyflwyno manteision gwirioneddol yn uniongyrchol i'ch sefydliad.

Y manteision i'ch sefydliad

  • Ehangu ymwybyddiaeth o safonau'r diwydiant a dulliau a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg
  • Cryfhau eich gallu TG drwy ymuno â'ch tîm
  • Gwella sgiliau unigolion yn eich sefydliad
  • Cyfrannu'n gadarnhaol at lefelau cymhelliant

Cysylltwch â ni

+44 (0)29 2066 5947

gwybodaeth@method4.co.uk

Ein cleientiaid