Recriwtio yn Method4

24 Ebrill 2006

Yn sgil twf a llwyddiant parhaus, mae Method4 yn chwilio am unigolion eithriadol i ymuno â'i dîm sy'n ehangu. Dyma gyfle rhagorol i'r bobl iawn gyfrannu'n allweddol at weithgareddau cwmni sy'n ffynnu. Mae swyddi ar gael i ddatblygwyr meddalwedd, dadansoddwyr systemau ac ymgynghorwyr cymorth prosiect gyda phrofiad amrywiol.

Yn Method4 rydyn ni'n ymfalchïo mewn creu amgylchedd gwaith proffesiynol a phleserus, gan geisio creu awyrgylch cyfeillgar braf, lle gwobrwyir gwaith caled ac ymrwymiad. Byddwch yn gweithio yn ein swyddfeydd yng nghanol prifddinas Cymru ac yn derbyn pecyn cystadleuol a'r cyfle i fod yn rhan o gwmni deinamig ac uchelgeisiol.

Meddai Christian Coates, y Rheolwr Gyfarwyddwr, "Mae Method4 wedi cael blwyddyn anhygoel. Rydyn ni eisoes yn cyflawni prosiectau strategol pwysig yn y sector TG yng Nghymru a bydd ein cynlluniau ehangu'n golygu y bydd ein gweithgareddau busnes yn tyfu yn y flwyddyn ariannol newydd."