ISO 9001:2000

25 Medi 2006

Yn dilyn archwiliad allanol yn ddiweddar, mae Method4 yn falch o gyhoeddi bod ein System Rheoli Ansawdd yn cydymffurfio'n llawn â'r safonau uchaf sydd eu hangen ar gyfer ISO 9001:2000. Mae'n hardystiad yn cwmpasu darparu meddalwedd ac atebion TG i gleientiaid corfforaethol a'r sector cyhoeddus.

Yn Method4, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth wrth gyflawni ein prosiectau ac mae ein System Rheoli Ansawdd yn ganolog i'r ffordd rydym yn gweithio. Mae'n rheoli'r prosesau sy'n effeithio ar ansawdd o'r ymholiad cychwynnol, trwy'r gwaith cynllunio a datblygu hyd at ddarparu'r cynnyrch gorffenedig. Mae'r system yn cael ei hadolygu a'i gwella'n gyson ar sail y gwersi a ddysgir ac adborth cleientiaid.

Meddai Craig Hughes, Cyfarwyddwr Cyfrif Method4, "Mae'r ardystiad ISO 9001 yn garreg filltir hollbwysig yn natblygiad Method4 ac rydyn ni'n hynod falch o fodloni'r safon ISO yn ffurfiol. Mae'r ardystiad yn cadarnhau bod ein dulliau a'n gweithdrefnau'n cydymffurfio â safonau rhyngwladol ar gyfer ansawdd a gwella parhaus".

Mwy o wybodaeth...

Cofrestredig i ISO 9001 - Tystysgrif URS Rhif 18009