Datblygiadau cyffroes ar gyfer GCaD Cymru
30 Gorffennaf 2007
Yn ddiweddar, mae Method4 wedi cwblhau'r gwaith o ddatblygu
cyfres o wasanaethau newydd a chyffrous ar gyfer y Grid Cenedlaethol ar gyfer
Dysgu (GCaD) Cymru.
Rheolir GCaD gan CBAC ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'n
darparu amrywiaeth ymarferol a defnyddiol o ddulliau dysgu TGCh ac
adnoddau dysgu, deunyddiau a gwybodaeth ategol ar gyfer ysgolion,
athrawon a disgyblion. Mae'r adnoddau'n cael eu hysgrifennu gan
athrawon ar gyfer athrawon. Mae'n cynnwys dros 3,000 o adnoddau ac
yn denu oddeutu 200,000 o ymweliadau bob mis.
Bydd y gwasanaethau defnyddwyr newydd a ddatblygwyd gan Method4
yn dod â nodweddion Web 2.0 i wefan GCaD Cymru. Bydd defnyddwyr yn
gallu sefydlu eu proffil eu hunain, a fydd yn eu galluogi i greu
hafan bersonol. Bydd y dudalen yn cynnwys rhestr o hoff adnoddau a
phorthwyr newyddion RSS. Bydd defnyddwyr hefyd yn gallu nodi
meysydd pwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt yn ogystal â'r
adnoddau diweddaraf a argymhellir gan y gwefannau. Bydd fforwm
newydd yn galluogi i'r gymuned ddefnyddwyr gyfathrebu.
Bydd y nodweddion newydd yn cael eu hymgorffori wrth ail-lansio
gwefan GCaD yn ystod yr hydref.