Polisi Ansawdd

Mae Method4 yn darparu gwasanaethau ymgynghori ar draws cylch bywyd cyfan brosiectau datblygu meddalwedd. Rydym yn dadansoddi systemau rheoli gwybodaeth, ac yn targedu gwella effeithiolrwydd sefydliad ein cleientiaid eu dylunio a'u rhoi ar waith.

Nod rheolwyr a holl staff Method4 yw darparu gwasanaeth o'r safon uchaf bosibl wrth fodloni gofynion ein cleientiaid.

I sicrhau ein bod yn rhagori yn ein holl weithgareddau, rydyn ni wedi rhoi system rheoli ansawdd ffurfiol ar waith, sy'n bodloni gofynion BS EN ISO 9001:2008.

Dyma amcanion y cwmni sy'n sail i'r system rheoli ansawdd:

  • Byddwn yn deall anghenion ein cleientiaid yn llawn.
  • Darperir adnoddau priodol o ran cyfleusterau a sgiliau perthnasol i ddiwallu anghenion cleientiaid.
  • Mae'r cwmni wedi ymrwymo i wella ansawdd yn barhaus ac mae'n pennu amcanion gwella ansawdd sy'n cael eu hail-asesu'n rheolaidd.
  • Caiff cynnydd yn erbyn yr amcanion ansawdd ei fonitro.

Mae pob gweithiwr cyflogedig wedi'i hysbysu am y polisi ansawdd a'r amcanion ansawdd sydd wedi'u mabwysiadu gan y rheolwyr.

Dyma fydd y sail ar gyfer gwella'n perfformiad yn barhaus.

Mae'r polisi a'r system rheoli ansawdd yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i ystyried newidiadau mewn amgylchiadau a gofynion cleientiaid.

Cofrestredig i ISO 9001 - Tystysgrif URS Rhif 18009

Gweler hefyd

Cysylltwch â ni

+44 (0)29 2066 5947

gwybodaeth@method4.co.uk

Ein cleientiaid